Salm 119:103-110 Salmau Cân 1621 (SC)

103. Mor beraidd gennif d’eiriau iach,nâ’r mel melusach ydynt.

104. O Arglwydd â’th orchmynion di,y gwnaethost fi yn bwyllawg:Am hynny’r ydwyf yn casaupob cyfryw lwybrau geuawg.

105. Dy air i’m traed i llusern yw,a llewych gwiw i’m llwybrau.

106. Tyngais, a chyflowni a wnaf,y cadwaf dy lân ddeddfau.

107. Cystuddiwydd fi’n fawr: Arglwydd da:bywha fi’n ôl d’addewyd:

108. Bodloner di, o Arglwydd mau,ag offrwm genau diwyd:A dysg i’m dy holl farnau draw,

109. f’enaid sy’im llaw’n wastadol:Am hynny nid anghofiais chwaith,dy lân gyfraith sancteiddiol.

110. Yr annuwiolion i’r ffordd fau, rhoddasant faglau geirwon:Ni chyfeiliornais i er hyn,ond dylyn dy orchmynion.

Salm 119