Salm 115:14-18 Salmau Cân 1621 (SC)

14. Yr Arglwydd arnoch, arnoch chwi,a wna ddaioni amlach.Ac a chwanega ar eich plantei fwyniant yn rymusach.

15. Y mae ywch fendith a mawr lwydd,gan y gwir Arglwydd cyfiawn,Yr hwn a wnaeth y nefoedd fry,ar ddayar obry yn gyflawn.

16. Y nef, ie’r nefoedd uwchlaw,sy yn eiddaw Duw yr Ion:Ar ddaiar, lle y preswyliant,a roes ef i blant dynion.

17. Pwy a folant yr Arglwydd? Pwy?gwn nad hwyntwy y meirwon,Na’r rhai a ânt i’r bedd yn rhwydd,lle y mae distawrwydd ddigon.

18. Ond nyni daliwn yn ein coffyth fyth fendithio’r Arglwydd.Molwch yr Arglwydd yn un wedd,a mawl gyfannedd ebrwydd.

Salm 115