Salm 110:1-4 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Dwedai’r Arglwydd wrth f’Arglwydd mau,ar fy llaw ddeau eistedd:Nes rhoddi’ rhai a gais dy waedyn faingc draed yt, i orwedd.

2. ’R Arglwydd denfyn ffrewyll dy nertho ddinas fowrwerth Seion,Pan lywodraethech yn eu mysg,gwna derfysg ar d’elynion.

3. Yn nydd dy nerth dy bobl a ddaw,ag aberth llaw’n wyllysgar,Yn sanctaidd hardd daw’r cynnyrch tauo wlith y borau hawddgar.

4. Yr Arglwydd tyngodd, ac ni wâd,ti sy’n offeiriad bythol,Wrth urdd Melchisedech odd’ fry,a bery yn dragwyddol.

Salm 110