Salm 109:13-18 Salmau Cân 1621 (SC)

13. Doed distryw dial ar ei hil,a’i eppil a ddileer,

14. Am bechodau ei dâd a’i famy caiff ef lam ryw amser.

15. A bydded hyn i gyd gar bronyr Arglwydd gyfion farnwr,Yr hwn a’i torro, fel na bomwy gofio eu anghyflwr.

16. Erioed ni cheisiodd wneuthur hedd,na thrugaredd i ddyn gwan,Ond erlid tlawd ar isel radd,a cheisio lladd y truan.

17. Hoffodd ffelldith a hi a ddaeth,ac fel y gwnaeth did iddo,Casâodd fendith, ac ni chai,ond pell yr ai oddiwrtho.

18. Gwisgodd felldith fel dillad gwr,a daw fel dwr iw galon,Fel olew doed iw esgyrn fo,hyd oni chaffo ddigon.

Salm 109