Salm 107:6-11 Salmau Cân 1621 (SC)

6. Ar Dduw y galwent y pryd hyn,pan oeddyn ymron trengu.Yna eu gwared hwynt a wnaeth,o’i holl orthrym-gaeth foddion.

7. Rhyd yr iawn ffordd fe’i dug mewn hedd,i dref gyfannedd dirion.

8. Addefant hwythau gar ei fron,ei swynion drugareddau:Ac er plant dynion fel y gwnaethyn helaeth ryfeddodau:

9. Ddiwallu honaw einioes dyn,rhag newyn a rhag syched:Ac o’i fawr râs eu cadw i gyd,pan oedd y byd yn galed.

10. Y rhai mewn tywyllwch a drig,ynghysgod llewig angau,Yn rhwym mewn nychdod, ac mewn bâr,a heyrn ar eu sodlau.

11. A hyn o herwydd iddynt fod,mewn anufydd-dod eithaf:A llwyr ddirmygu gair Duw Ior,a chyngor y Goruchaf.

Salm 107