35. Troes yr anialwch yn llyn glâs,a’r tir cras yn ffynhonnydd.
36. Lle y gwnâi ef drigfan i’r gwael ddyn,i dorri ei newyn beunydd.
37. Lle yr hauasant faesydd glân,a llawer gwinllan dyner,Y rhai a roddant lawnder ffrwyth,a chnydlwyth yn ei amser.
38. Cans cynyddasant hwy gan wlithgrasol fendith un Duw cun:A’i hanifeiliaid hysb a blith,rhoes yr un fendith arnun.
39. Daeth caethder gwedi hyn i gyd,a drygfyd er eu gostwng.Gadawodd eu gorthrymmu a’i plau,cawsant flinderau teilwng.