Salm 106:39-43 Salmau Cân 1621 (SC)

39. Felly o’i gweithredoedd eu hun,yn un ymhalogasant.Putteinio wrth ei cwrs a’i bryd,ac felly cyd-lygrasant.

40. Wrthynt enynnodd Duw mewn digam hyn â ffyrnig gyffro.Câs a ffiaidd felly yr aethei etifeddiaeth gantho.

41. O’r achos hyn eu rhoddi a wnaethdan bob cenhedlaeth gyndyn,Mewn cyflwr câs dan estron blaid,a’i câs yn feistraid arnyn.

42. Eu gelynion aethant yn ffrom,a’i llaw fu drom a ffyrnig,Felly y darostyngwyd hwy,a mwyfwy fu eu dirmig.

43. Mynych-waredodd Duw ei blant,hwy a’i digiasant yntauA’i cwrs eu hyn: daeth cystudd hiram waith eu henwir feiau.

Salm 106