33. Wrth gythruddo yspryd y Sanct,hwy a barasant hefydIw enau draethu gair ar fai,ar na pherthynai’i ddwedyd.
34. Ni laddent chwaith bobloedd y wlâdwrth archiad Duw y lluoedd,
35. Ond ymgymyscu â hwynt yn gu,a dysgu eu gweithredoedd.
36. Gwasanaethu eu duwiau gau,y rhai fu faglau iddyn.
37. Aberthu eu plant, yn fâb, yn ferch,o serch i’r cythraul eulyn.
38. A thywalltasant wirion waed,dan draed gau-dduwiau Canaan.Y tir (wrth aberthu eu plant)gwaed llygrasant weithian.