1. O Arglwydd, erglyw fy ngweddi,a doed fy nghri hyd attad:
2. Na chudd d’wyneb mewn ing tra fwyf,clyw, clyw, pan alwyf arnad.
3. Fy nyddiau aethant fel y mwg,sef cynddrwg im cystuddiwyd:Fy esgyrn poethant achos hyn,fal tewyn ar yr aelwyd.
4. Fy nghalon trawyd â chryn iâs,ac fel y gwelltglas gwywodd:Fel yr anghofiais fwyta ’mwyddirmygwyd fi yn ormodd.
5. Glynodd fy esgyrn wrth fy nghroen,gan faint fy mhoen a’m tuchan.
6. Fel un o’r anialwch, lle y trigy pelig, neu’r dylluan.