Salm 10:1-6 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Arglwydd pa’m y sefi di,oddi wrthym ni cyn belled?Pa’m yr ymguddi di i’th rym,pam ydym mewn caethiwed?

2. Y drygrai sydd yn blino’r tlawd,gan drallawd, a chan falchder:Yn y dichellion a wnai’ rhai’n,hwynt hwy eu hunain dalier.

3. Hoff gan ddyn drwg ei chwant ei hun,pawb yn gytun â’i bechod:Bendithio mael ydyw eu swydd,a’r Arglwydd maent iw wrthod.

4. Yr annuwiol ni chais Dduw ner,(mae ef iw falchder cyfuwch:)Ni chred ef, ac ni feddwl fod,un fâth awdurdod goruwch.

5. Am fod ei ffyrdd mewn lwyddiant hir,ni wyl mo’th wir gyfammod:Bydd dordyn wrth elynion mân,fel chwythu tân mewn sorod.

6. Fe ddwedodd hyn â’i feddwl syth,ni ddigwydd byth i’m adfyd:Ni’m symudir o oes i oes,ni chaf na gloes, na drygfyd.

Salm 10