4. Nid felly bydd y drwg di-rus,ond fel yr us ar gorwynt:Yr hwn o’r tir â’i chwyth a’i chwal,anwadal fydd ei helynt.
5. Am hyn y drwg ni saif mewn barn,o flaen y cadarn uniawn:Na’r pechaduriaid mawr eu bar,ynghynulleidfa’r cyfiawn.
6. Canys yr Arglwydd Dduw, fel hyn,a edwyn ffyrdd gwirioniaid:Ac ef ni ad byth i barhau,’mo lwybrau pechaduriaid.