1. Y sawl ni rodia, dedwydd yw,yn ol drwg ystryw gynghor;Ni saif ar ffordd troseddwyr ffol,nid eiste’n stol y gwatwor.
2. Ond ei holl serch ef fydd yn rhwydd,ar ddeddf yr Arglwydd uchod:Ac ar ei ddeddf, rhydd ddydd a nos,yn ddiddos ei fyfyrdod.
3. Ef fydd fel pren plan ar lan dol,dwg ffrwyth amserol arno:Ni chrina’i ddalen, a’i holl waith,a lwydda’n berffaith iddo.