Y Pregethwr 8:2-12 beibl.net 2015 (BNET)

2. Dw i'n dweud,“Gwranda ar orchymyn y brenin –gan dy fod wedi tyngu llw o flaen Duw i wneud hynny.”

3. Paid bod ar frys i fynd o'i bresenoldeb;a paid oedi pan fydd pethau'n anghysurus.Gall y brenin wneud unrhyw beth mae'n ei ddewis.

4. Mae gan y brenin awdurdod llwyr,a does gan neb hawl i ofyn iddo, “Beth wyt ti'n wneud?”

5. Fydd yr un sy'n ufudd iddo ddim yn cael ei hun i drafferthion.Mae'r person doeth yn deall fod amser a threfn i bopeth.

6. Mae amser penodol a threfn i bopeth.Ond mae'r perygl o ryw drasiedi'n digwyddyn pwyso'n drwm ar bobl.

7. Does neb yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd,hyd yn oed pan mae ar fin digwydd. Pwy sy'n gallu dweud?

8. A does gan neb y gallu i ddal ati i anadlu pan mae'n marw; does neb yn gallu gohirio'r foment y bydd yn marw. All milwr ddim cael ei ryddhau o ganol y frwydr, a'r un modd all gwneud drwg ddim achub pobl ddrwg.

9. Wrth i mi fynd ati o ddifrif i feddwl am bopeth sy'n digwydd yn y byd, dw i wedi sylweddoli hyn: mae gan rai pobl awdurdod dros eraill i wneud niwed iddyn nhw.

10. Yna gwelais bobl ddrwg yn cael angladd parchus. Roedden nhw'n arfer mynd a dod o'r lle sanctaidd, tra roedd y rhai yn y ddinas oedd wedi byw yn iawn yn cael eu hanghofio. Beth ydy'r pwynt?

11. Os ydy drygioni ddim yn cael ei gosbi ar unwaith, mae pobl yn cael eu hannog i wneud drwg.

12. Mae pechadur yn cyflawni'r un drwg ganwaith, ac yn dal i gael byw'n hir. Ond dw i'n gwybod yn iawn y bydd hi'n well ar y rhai sy'n parchu Duw yn y pen draw, am eu bod nhw'n dangos parch ato.

Y Pregethwr 8