Y Pregethwr 7:13-17 beibl.net 2015 (BNET)

13. Ystyriwch bopeth mae Duw wedi ei wneud! Pwy sy'n gallu sythu beth mae e wedi ei blygu?

14. Felly mwynhewch fywyd pan mae pethau'n mynd yn dda; ond pan mae popeth yn mynd o'i le, cofiwch hyn: Duw sydd tu ôl i'r naill a'r llall, felly all neb wybod yn iawn beth fydd yn digwydd yn y dyfodol.

15. Yn ystod fy mywyd llawn penbleth, dw i wedi gweld y cwbl: Rhywun sy'n ffyddlon i Dduw yn marw'n ifanc er ei holl ddaioni, a rhywun drwg yn cael byw'n hir er gwaetha'i holl ddrygioni.

16. Paid bod yn rhy siŵr ohonot ti dy hun, dy fod yn berson cyfiawn a doeth, rhag i ti gael dy siomi!

17. A paid rhoi dy hun yn llwyr i ddrygioni ac ymddwyn fel ffŵl. Pam ddylet ti farw cyn dy amser?

Y Pregethwr 7