Titus 1:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Llythyr gan Paul, gwas i Dduw a chynrychiolydd personol Iesu y Meseia. Dw i'n gweithio er mwyn gweld y rhai mae Duw wedi eu dewis yn dod i gredu, a'u helpu nhw i ddeall y gwir yn well, iddyn nhw allu byw fel mae Duw am iddyn nhw fyw.

2. Mae'n rhoi sicrwydd iddyn nhw fod ganddyn nhw fywyd tragwyddol. Dyma'r bywyd wnaeth Duw ei addo cyn i amser ddechrau – a dydy Duw ddim yn gallu dweud celwydd!

3. Pan ddaeth yr amser iawn daeth â'r newyddion da i'r golwg a rhoi'r cyfrifoldeb i mi i'w gyhoeddi. Duw ein Hachubwr sydd wedi gorchymyn i mi wneud hyn.

4. Titus, rwyt ti wir fel mab i mi, gan dy fod yn credu yn y Meseia fel dw i:Dw i'n gweddïo y byddi di'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw y Tad a'r Meseia Iesu, ein Hachubwr, yn ei roi i ni.

5. Y rheswm pam adewais di ar Ynys Creta oedd er mwyn i ti orffen rhoi trefn ar bethau yno. Dwedais fod eisiau penodi arweinwyr yn yr eglwysi ym mhob un o'r trefi.

6. Ddylai pobl ddim gallu pigo bai ar fywyd arweinydd yn yr eglwys. Rhaid iddo fod yn ffyddlon i'w wraig, a'i blant yn credu a ddim yn wyllt ac yn afreolus.

7. Rhaid i arweinydd fod yn ddi-fai, am mai Duw sydd wedi rhoi'r cyfrifoldeb iddo. Dylai beidio bod yn benstiff, nac yn fyr ei dymer. Ddim yn meddwi, ddim yn ymosodol, a ddim yn gwneud arian ar draul pobl eraill.

8. Dylai fod yn berson croesawgar. Dylai wneud beth sy'n dda, bod yn berson cyfrifol, yn gwbl deg, yn dduwiol ac yn gallu rheoli ei chwantau.

Titus 1