7. Yna dyma'r caead plwm oedd ar y gasgen yn cael ei godi, a dyna lle roedd gwraig yn eistedd yn y gasgen!
8. A dyma'r angel yn dweud, “Mae'r wraig yma'n cynrychioli drygioni.” A dyma fe'n ei gwthio hi yn ôl i'r gasgen a slamio'r caead o blwm yn ôl i'w le.
9. Yna dyma fi'n edrych eto, a gweld dwy wraig yn hedfan drwy'r awyr. (Roedd ganddyn nhw adenydd mawr fel crëyr.) Dyma nhw'n codi'r gasgen a hedfan i ffwrdd yn uchel i'r awyr.