4. Ohonyn nhw y daw y garreg sylfaen,Ohonyn nhw daw'r peg i ddal y babell,Ohonyn nhw daw'r bwa rhyfel,Ohonyn nhw daw pob arweinydd cryf.
5. Byddan nhw fel milwyr dewr mewn brwydryn martsio drwy'r mwd ar faes y gâd.Am fod yr ARGLWYDD gyda nhw,byddan nhw'n ymladdac yn curo cafalri'r gelyn.
6. “Dw i'n mynd i wneud teyrnas Jwda'n gryf,ac achub pobl Israel.Dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôla dangos trugaredd atyn nhw –bydd fel petawn i erioed wedi eu gwrthod nhw.Fi ydy'r ARGLWYDD eu Duw nhw,a dw i'n mynd i'w hateb nhw.
7. Bydd pobl Israel fel milwyr dewryn dathlu fel petaen nhw wedi meddwi.Bydd eu plant mor hapus wrth weld hynny,ac yn gorfoleddu yn yr ARGLWYDD.
8. Dw i'n mynd i chwibanui'w casglu nhw at ei gilydd –dw i'n eu gollwng nhw'n rhydd!Bydd cymaint ohonyn nhw ag o'r blaen.
9. Er i mi eu gwasgaru drwy'r gwledydd,byddan nhw'n meddwl amdana i mewn mannau pell –a byddan nhw a'u plant yn dod yn ôl
10. Bydda i'n dod â nhw yn ôl o'r Aifft,ac yn eu casglu nhw o Asyria;mynd â nhw i dir Gilead a Libanus,a fydd hyd yn oed hynny ddim digon o le.