Salm 98:7-9 beibl.net 2015 (BNET)

7. Boed i'r môr a phopeth sydd ynddo weiddi;a'r byd hefyd, a phawb sy'n byw ynddo.

8. Boed i'r afonydd guro dwylo,ac i'r mynyddoedd ganu'n llawen gyda'i gilydd

9. o flaen yr ARGLWYDD!Achos mae e'n dod i roi trefn ar y ddaear!Bydd e'n barnu'r byd yn hollol deg,a'r bobloedd yn gwbl gyfiawn.

Salm 98