Salm 97:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu!Gall y ddaear ddathlu,a'r ynysoedd i gyd lawenhau!

2. Mae cwmwl trwchus o'i gwmpas;a'i orsedd wedi ei sylfaenu ar degwch a chyfiawnder.

3. Mae tân yn mynd allan o'i flaen,ac yn llosgi ei elynion ym mhobman.

4. Mae ei fellt yn goleuo'r byd;a'r ddaear yn gwingo wrth ei weld.

5. Mae'r mynyddoedd yn toddi fel cwyr o flaen yr ARGLWYDD,o flaen Meistr y ddaear gyfan.

6. Mae'r nefoedd yn cyhoeddi ei fod yn gyfiawn,a'r bobloedd i gyd yn gweld ei ysblander.

7. Mae'r rhai sy'n addoli eilun-dduwiau yn cywilyddio –y rhai oedd mor falch o'u delwau diwerth.Mae'r ‛duwiau‛ i gyd yn plygu o'i flaen.

8. Roedd Seion yn hapus pan glywodd hyn,ac roedd pentrefi Jwda'n dathluam dy fod ti'n barnu'n deg, O ARGLWYDD.

Salm 97