11. Bydda i'n cael gweld y gelynion sy'n fy ngwylio yn cael eu trechu;a chlywed y rhai drwg sy'n ymosod arna i yn chwalu.
12. Ond bydd y rhai cyfiawn yn blodeuo fel palmwydd;ac yn tyfu'n gryf fel coed cedrwydd yn Libanus.
13. Maen nhw wedi eu plannu yn nheml yr ARGLWYDD,ac yn blodeuo yn yr iard sydd yno.
14. Byddan nhw'n dal i roi ffrwyth pan fyddan nhw'n hen;byddan nhw'n dal yn ffres ac yn llawn sudd.
15. Maen nhw'n cyhoeddi fod yr ARGLWYDD yn gyfiawn –mae e'n graig saff i mi,a does dim anghyfiawnder yn agos ato.