4. Bydd e'n rhoi ei adain drosot ti,a byddi'n saff o dan blu ei adenydd.Mae'r ffaith fod Duw yn dweud y gwiryn darian sy'n dy amddiffyn di.
5. Paid bod ag ofn dim sy'n dy ddychryn yn y nos,na'r saeth sy'n hedfan yn y dydd;
6. yr haint sy'n llechu yn y tywyllwch,na'r dinistr sy'n taro'n sydyn ganol dydd.
7. Gall mil o ddynion syrthio ar dy law chwith,a deg mil ar y dde,ond fyddi di ddim yn cael dy gyffwrdd.
8. Byddi'n cael gweld drosot ti dy hun –byddi'n gweld y rhai drwg yn cael eu cosbi.
9. Wyt, rwyt ti'n lle saff i mi guddio. ARGLWYDD!Gad i'r Duw Goruchaf fod yn hafan ddiogel i ti,
10. a fyddi di ddim yn cael unrhyw niwed.Fydd dim haint yn dod yn agos i dy gartre di.
11. Achos bydd e'n gorchymyn i'w angyliondy amddiffyn di ble bynnag rwyt ti'n mynd.