Salm 89:43-48 beibl.net 2015 (BNET)

43. Rwyt wedi troi min ei gleddyf arno fe'i hun,a heb ei helpu yn y frwydr.

44. Rwyt wedi dod â'i deyrnasiad gwych i ben,ac wedi bwrw ei orsedd i lawr.

45. Rwyt wedi ei droi'n hen ddyn cyn pryd;ac wedi ei orchuddio â chywilydd. Saib

46. Am faint mwy, O ARGLWYDD?Wyt ti wedi troi dy gefn arnon ni am byth?Fydd dy lid di'n llosgi fel tân am byth?

47. Cofia mor fyr ydy fy mywyd!Wyt ti wedi creu'r ddynoliaeth i ddim byd?

48. Does neb byw yn gallu osgoi marw.Pwy sy'n gallu achub ei hun o afael y bedd? Saib

Salm 89