33. Ond fydda i ddim yn stopio ei garu e,a fydda i ddim yn anffyddlon iddo.
34. Fydda i ddim yn torri'r ymrwymiad wnes i;bydda i'n gwneud beth wnes i addo iddo.
35. Dw i, y Duw sanctaidd, wedi tyngu llw,na fydda i byth yn twyllo Dafydd.
36. Bydd ei linach yn aros am byth,a'i orsedd yn para tra mae haul o'm blaen i.
37. Mae wedi ei sefydlu am byth, fel mae'r lleuadyn dyst ffyddlon i mi yn yr awyr.” Saib
38. Ond rwyt wedi ei wrthod, a'i wthio i'r naill ochr!Rwyt wedi gwylltio gyda'r brenin, dy eneiniog.
39. Rwyt wedi dileu'r ymrwymiad i dy was;ac wedi llusgo ei goron drwy'r baw.
40. Rwyt wedi bwrw ei waliau i lawr,a gwneud ei gaerau yn adfeilion.
41. Mae pawb sy'n pasio heibio yn dwyn oddi arno.Mae e'n destun sbort i'w gymdogion!
42. Ti wedi gadael i'r rhai sy'n ei gasáu ei goncro,a rhoi achos i'w elynion i gyd ddathlu.
43. Rwyt wedi troi min ei gleddyf arno fe'i hun,a heb ei helpu yn y frwydr.
44. Rwyt wedi dod â'i deyrnasiad gwych i ben,ac wedi bwrw ei orsedd i lawr.