Salm 87:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. Mae ei sylfeini ar y mynyddoedd sanctaidd!

2. Mae'r ARGLWYDD yn caru dinas Seionfwy nag unrhyw fan arall yn nhir Jacob.

3. Mae pethau hyfryd yn cael eu dweud amdanat ti,O ddinas Duw. Saib

4. Wrth sôn am yr Aifft a Babilon wrth y rhai sy'n fy nabod i– Philistia, Tyrus, a dwyrain Affrica hefyd –dywedir, “Cafodd hwn a hwn ei eni yno.”

5. A dyma fydd yn cael ei ddweud am Seion:“Cafodd pob un o'r rhain eu geni yno!Mae'r Duw Goruchaf ei hun yn ei gwneud hi'n ddiogel!”

Salm 87