Salm 84:3-9 beibl.net 2015 (BNET)

3. Mae hyd yn oed aderyn y to wedi gwneud ei gartre yno!Mae'r wennol wedi gwneud nyth iddi ei hun,i fagu ei chywion wrth ymyl dy allor di,O ARGLWYDD holl-bwerus,fy Mrenin a'm Duw.

4. Y fath fendith sydd i'r rhai sy'n aros yn dy dŷ di!Y rhai sy'n dy addoli di drwy'r adeg! Saib

5. Y fath fendith sydd i'r rhai wyt ti'n eu cadw nhw'n saff,wrth iddyn nhw deithio'n frwd ar bererindod i dy deml!

6. Wrth iddyn nhw basio trwy ddyffryn Bacha,byddi di wedi ei throi yn llawn ffynhonnau!Bydd y glaw cynnar wedi tywallt ei fendithion arni.

7. Byddan nhw'n symud ymlaen o nerth i nerth,a byddan nhw i gyd yn ymddangos o flaen Duw yn Seion.

8. O ARGLWYDD Dduw holl-bwerus,gwrando ar fy ngweddi!Clyw fi, O Dduw Jacob. Saib

9. Edrych ar y brenin, ein tarian ni, O Dduw!Edrych yn ffafriol ar yr un wnest ti ei eneinio.

Salm 84