7. Gebal, Ammon, ac Amalec,Philistia a phobl Tyrus.
8. Mae Asyria wedi ymuno â nhw hefyd,i roi help llaw i ddisgynyddion Lot. Saib
9. Delia gyda nhw fel y gwnest ti gyda Midian –fel y gwnest ti i Sisera a Jabin,wrth afon Cison.
10. Cawson nhw eu dinistrio yn En-dor.Roedd eu cyrff fel tail ar wyneb y tir!
11. Delia gyda'i harweinwyr nhwfel y gwnest ti gydag Oreb a Seeb.Gwna eu tywysogion nhwfel Seba a Tsalmwna,
12. oedd am ddwyn y tir i gyd oddi ar Dduw.
13. O fy Nuw, trin nhw fel plu ysgall,neu us yn cael ei chwythu gan y gwynt!
14. Difa nhw, fel mae tân yn llosgi coedwig,a'i fflamau'n lledu dros y bryniau.
15. Dos ar eu hôl nhw â'th storm,a'u dychryn nhw â'th gorwynt.