Salm 83:14-18 beibl.net 2015 (BNET)

14. Difa nhw, fel mae tân yn llosgi coedwig,a'i fflamau'n lledu dros y bryniau.

15. Dos ar eu hôl nhw â'th storm,a'u dychryn nhw â'th gorwynt.

16. Coda gywilydd arnyn nhw,a gwna iddyn nhw dy gydnabod di, O ARGLWYDD.

17. Cywilydd a dychryn fydd byth yn dod i ben!Gad iddyn nhw farw yn eu gwarth!

18. Byddan nhw'n deall wedyn mai ti ydy'r ARGLWYDD,ie, ti yn unig!Ti ydy'r Duw Goruchaf sy'n rheoli'r byd i gyd!

Salm 83