Salm 81:10-16 beibl.net 2015 (BNET)

10. Fi, yr ARGLWYDD ydy dy Dduw di.Fi ddaeth â ti allan o wlad yr Aifft.Agor dy geg, a bydda i'n dy fwydo!

11. Ond wnaeth fy mhobl ddim gwrando.Wnaeth Israel ddim ufuddhau i mi;

12. felly dyma fi'n gadael iddyn nhw fod yn ystyfniga gwneud beth bynnag roedden nhw eisiau.

13. O na fyddai fy mhobl yn gwrando arna i!O na fyddai Israel yn fy nilyn i!

14. Byddwn i'n trechu eu gelynion nhw yn syth;ac yn ymosod ar y rhai sy'n eu gwrthwynebu nhw.”

15. (Boed i'r rhai sy'n casáu'r ARGLWYDD wingo o'i flaen –dyna eu tynged nhw am byth!)

16. “Byddwn i'n bwydo Israel â'r ŷd gorau;ac yn dy fodloni gyda mêl o'r graig.”

Salm 81