Salm 80:5-15 beibl.net 2015 (BNET)

5. Ti wedi eu bwydo nhw â dagrau,a gwneud iddyn nhw yfed dagrau wrth y gasgen.

6. Ti wedi troi ein cymdogion yn ein herbyn;mae'n gelynion yn gwneud sbort ar ein pennau.

7. O Dduw holl-bwerus, adfer ni!Gwena'n garedig arnon ni! Achub ni!

8. Cymeraist winwydden o'r Aifft,a gyrru cenhedloedd i ffwrdd er mwyn ei thrawsblannu hi.

9. Cliriaist le iddi,er mwyn iddi fwrw gwreiddiaua llenwi'r tir.

10. Roedd ei chysgod dros y mynyddoedd,a'i changhennau fel rhai coed cedrwydd.

11. Roedd ei changhennau'n cyrraedd at y môr,a'i brigau at afon Ewffrates.

12. Pam wnest ti fwrw'r wal o'i chwmpas i lawr,fel bod pwy bynnag sy'n pasio heibio yn pigo ei ffrwyth?

13. Mae'r baedd gwyllt wedi tyrchu o dani,a'r pryfed yn bwyta ei dail.

14. O Dduw holl-bwerus, tro yn ôl aton ni!Edrych i lawr o'r nefoeddac archwilia gyflwr dy winwydden!

15. Ti dy hun wnaeth ei phlannu,a gwneud iddi dyfu.

Salm 80