17. O Dduw, dw i wedi profi'r peth ers pan yn ifanc,ac wedi bod yn sôn am y pethau rhyfeddolrwyt ti'n eu gwneud hyd heddiw.
18. Dw i bellach yn hen a'm gwallt yn wyn,ond paid gadael fi nawr, O Dduw.Dw i eisiau dweud wrth y genhedlaeth sydd i ddodam dy gryfder a'r pethau mawr rwyt ti'n eu gwneud.
19. Mae dy gyfiawnder yn cyrraedd y nefoedd, O Dduw!Ti wedi gwneud pethau mor fawr –O Dduw, does neb tebyg i ti!
20. Er i ti adael i mi wynebu pob math o brofiadau chwerw,wnei di adael i mi fyw eto?Wnei di fy nghodi eto o ddyfnderoedd y ddaear?