Salm 71:11-16 beibl.net 2015 (BNET)

11. “Mae Duw wedi ei adael,” medden nhw;“Ewch ar ei ôl a'i ddal;fydd neb yn dod i'w achub!”

12. O Dduw, paid mynd yn rhy bell!Fy Nuw, brysia i'm helpu i!

13. Gad i'r rhai sy'n fy erbyn i gael eu cywilyddio'n llwyr.Gad i'r rhai sydd am wneud niwed i migael eu gwisgo mewn gwarth a chywilydd!

14. Ond bydda i'n gobeithio bob amser,ac yn dal ati i dy foli di fwy a mwy.

15. Bydda i'n dweud am dy gyfiawnder.Bydda i'n sôn yn ddi-baid am y ffordd rwyt ti'n achub;Mae cymaint i'w ddweud!

16. Dw i'n dod i ddweud am y pethau mawr rwyt ti'n eu gwneud– fy meistr, fy ARGLWYDD –a dathlu'r ffaith dy fod mor gyfiawn – ie, ti yn unig!

Salm 71