1. O ARGLWYDD, paid bod yn ddig a'm cosbi i,paid dweud y drefn yn dy wylltineb.
2. Bydd yn garedig ata i, ARGLWYDD, achos dw i mor wan.Iachâ fi, ARGLWYDD, dw i'n crynu at yr asgwrn.
3. Dw i wedi dychryn am fy mywyd,ac rwyt ti, ARGLWYDD …– O, am faint mwy?
4. ARGLWYDD, tyrd! Achub fi!Dangos mor ffyddlon wyt ti. Gollwng fi'n rhydd!