2. Rwyt ti'n cynllwynio dinistr,ac mae dy dafod di fel rasel finiog, y twyllwr!
3. Mae drwg yn well na da gen ti,a chelwydd yn well na dweud y gwir. Saib
4. Ti'n hoffi dweud pethau sy'n gwneud niwed i bobl,ac yn twyllo pobl.
5. Ond bydd Duw yn dy daro i lawr unwaith ac am byth!Bydd yn dy gipio allan o dy babell,ac yn dy lusgo i ffwrdd o dir y byw. Saib
6. Bydd y rhai sy'n iawn gyda Duw yn gweld y peth,ac wedi eu syfrdanu.Byddan nhw'n chwerthin ar dy ben, ac yn dweud,
7. “Edrychwch! Dyma'r dyn oedd yn gwrthod troi at Dduw am help!Y dyn oedd yn pwyso ar ei gyfoeth,ac yn meddwl ei fod yn dipyn o foi yn dinistrio pobl eraill!”