Salm 51:13-17 beibl.net 2015 (BNET)

13. Wedyn bydda i'n dysgu'r rhai sy'n gwrthryfela i dy ddilyn di,a bydd pechaduriaid yn troi atat ti.

14. Maddau i mi am fod wedi tywallt gwaed, O Dduw.Ti ydy'r Duw sy'n fy achub i,a bydda i'n canu am dy faddeuant di.

15. O ARGLWYDD, agor fy ngeg,i mi gael dy foli.

16. Nid aberthau sy'n dy blesio di;a dydy offrwm i'w losgi ddim yn dy fodloni di.

17. Yr aberthau wyt ti eisiau ydy ysbryd wedi ei ddryllio,calon wedi ei thorri, ac ysbryd sy'n edifar –Wnei di ddim diystyru peth felly, O Dduw.

Salm 51