Salm 42:5-10 beibl.net 2015 (BNET)

5. F'enaid, pam rwyt ti'n teimlo mor isel?Pam wyt ti mor anniddig?Rho dy obaith yn Nuw!Bydda i'n moli Duw etoam iddo ymyrryd i'm hachub i!

6. O fy Nuw, dw i'n teimlo mor isel.Felly dw i am feddwl amdanat titra dw i'n ffoadur yma.Yma mae'r Iorddonen yn tardduo fryniau Hermon a Mynydd Misar;

7. lle mae sŵn dwfn y rhaeadrauyn galw ar ei gilydd.Mae fel petai tonnau mawr dy fôr yn llifo trosta i!

8. Ond dw i'n profi gofal ffyddlon yr ARGLWYDD drwy'r dydd,ac yn y nos dw i'n canu cân o fawl iddoac yn gweddïo ar y Duw byw.

9. Dw i'n gofyn i Dduw, fy nghraig uchel,“Pam wyt ti'n cymryd dim sylw ohono i?Pam mae'n rhaid i mi gerdded o gwmpas yn drist,am fod y gelynion yn fy ngham-drin i?”

10. Mae'r rhai sy'n fy nghasáu i yn gwawdio;ac mae'n brathu i'r bywwrth iddyn nhw wawdio'n ddiddiwedd,“Ble mae dy Dduw di, felly?”

Salm 42