Salm 42:1-4 beibl.net 2015 (BNET)

1. Fel hydd yn brefu am ddiod o ddŵr,dw i'n hiraethu go iawn amdanat ti, O Dduw.

2. Mae gen i syched am Dduw, y Duw byw;O, pryd ga i fynd eto i sefyll o'i flaen yn ei deml?

3. Dw i'n methu bwyta, ac yn crïo nos a dydd,wrth iddyn nhw wawdio'n ddiddiwedd,“Ble mae dy Dduw di, felly?”

4. Wrth gofio hyn i gyd dw i'n teimlo mor drist!Cofio mynd gyda'r dyrfa i dŷ Dduw;gweiddi a moli'n llawen gyda phawb arallwrth ddathlu'r Ŵyl!

Salm 42