Salm 41:5-11 beibl.net 2015 (BNET)

5. Mae fy ngelynion yn dweud pethau cas amdana i,“Pryd mae'n mynd i farw a chael ei anghofio?”

6. Mae rhywun yn ymweld â mi, ac yn cymryd arno ei fod yn ffrind;ond ei fwriad ydy gwneud drwg i mi,ac ar ôl mynd allan, mae'n lladd arna i.

7. Mae fy ngelynion yn sibrwd amdana i ymhlith ei gilydd,ac yn cynllwynio i wneud niwed i mi.

8. “Mae'n diodde o afiechyd ofnadwy;fydd e ddim yn codi o'i wely byth eto.”

9. Mae hyd yn oed fy ffrind agos– yr un roeddwn i'n ei drystio,yr un fu'n bwyta wrth fy mwrdd i –wedi troi yn fy erbyn i!

10. Felly, O ARGLWYDD, dangos drugaredd ata i;gad i mi godi eto, i mi gael talu'n ôl iddyn nhw!

11. Ond dw i'n gwybod fy mod i'n dy blesio di:a fydd y gelyn ddim yn bloeddio ei fod wedi ennill y fuddugoliaeth.

Salm 41