4. Dylech chi grynu mewn ofn, a stopio pechu!Myfyriwch ar y peth ar eich gwely, a dechreuwch wylo.
5. Dewch â chyflwyno'r aberthau iawn iddo;trowch a trystio'r ARGLWYDD.
6. Mae llawer yn gofyn, “Pryd welwn ni ddyddiau da eto?”O ARGLWYDD, wnei di fod yn garedig aton ni?
7. Gwna fi'n hapus eto, fel yr adegpan mae'r cnydau ŷd a grawnwin yn llwyddo.
8. Bydda i'n gallu gorwedd i lawr a chysgu'n dawel,am dy fod ti, O ARGLWYDD, yn fy nghadw i'n saff.