Salm 4:1-4 beibl.net 2015 (BNET)

1. O Dduw, ateb fi pan dw i'n galw arnat!Ti ydy'r un sy'n achub fy ngham!Dw i mewn argyfwng, ond gelli di ddod â fi allan.Dangos drugaredd ata i, a gwrando ar fy ngweddi.

2. “Chi bobl feidrol,am faint mae fy enw i gael ei sarhau?Am faint ydych chi'n mynd i roi'ch bryd ar bethau diwerth,a dilyn pethau twyllodrus?” Saib

3. Deallwch fod yr ARGLWYDD yn cadw'r rhai ffyddlon iddo'i hun!Mae'r ARGLWYDD yn clywed pan dw i'n galw arno.

4. Dylech chi grynu mewn ofn, a stopio pechu!Myfyriwch ar y peth ar eich gwely, a dechreuwch wylo.

Salm 4