Salm 39:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma fi'n penderfynu, “Dw i'n mynd i wylio fy huna pheidio dweud dim byd i bechu.Dw i'n mynd i gau fy nghegtra dw i yng nghwmni pobl ddrwg.”

2. Roeddwn i'n hollol dawel,yn brathu fy nhafod a dweud dim.Ond roeddwn i'n troi'n fwy a mwy rhwystredig.

3. Roedd y tensiwn yno i yn mynd o ddrwg i waeth.Roeddwn i'n methu ymatal.A dyma fi'n dweud:

4. “O ARGLWYDD, beth ydy'r pwynt?faint o amser sydd gen i ar ôl?Bydda i wedi mynd mewn dim o amser!

5. Ti wedi gwneud bywyd mor fyr.Dydy oes rhywun yn ddim byd yn dy olwg di.Mae bywyd y cryfaf yn mynd heibio fel tarth!” Saib

Salm 39