Salm 37:36-40 beibl.net 2015 (BNET)

36. Ond wedyn wrth basio heibio, sylwais eu bod wedi diflannu!Ro'n i'n edrych, ond doedd dim sôn amdanyn nhw!

37. Edrych ar y rhai gonest! Noda'r rhai sy'n byw'n gywir!Mae dyfodol i'r rhai sy'n hybu heddwch.

38. Ond bydd y rhai sy'n troseddu yn cael eu dinistrio'n llwyr!Does dim dyfodol i'r rhai drwg!

39. Mae'r ARGLWYDD yn achub y rhai sy'n byw'n gywir,ac yn eu hamddiffyn pan maen nhw mewn trafferthion.

40. Mae'r ARGLWYDD yn eu helpu ac yn eu hachub;mae'n eu hachub o afael pobl ddrwg,am eu bod wedi troi ato i'w hamddiffyn.

Salm 37