17. Bydd pobl ddrwg yn colli eu grym,ond mae'r ARGLWYDD yn cynnal y rhai sy'n byw yn iawn.
18. Mae'r ARGLWYDD yn gofalu amdanyn nhw bob dydd;mae ganddyn nhw etifeddiaeth fydd yn para am byth.
19. Fydd dim cywilydd arnyn nhw pan mae'n ddyddiau anodd;pan fydd newyn bydd ganddyn nhw ddigon i'w fwyta.
20. Ond bydd y rhai drwg yn marw.Bydd gelynion yr ARGLWYDD yn cael eu difa,fel gwellt yn cael ei losgi mewn ffwrn.
21. Mae pobl ddrwg yn benthyg heb dalu'r ddyled yn ôl;ond mae'r rhai sy'n byw yn iawn yn hael ac yn dal ati i roi.
22. Bydd y bobl mae Duw'n eu bendithio yn meddiannu'r tir,ond y rhai mae'n eu melltithio yn cael eu gyrru i ffwrdd.
23. Mae'r ARGLWYDD yn sicrhau llwyddiantyr un sy'n byw i'w blesio.
24. Bydd yn baglu weithiau, ond fydd e ddim yn syrthio ar ei wyneb,achos mae'r ARGLWYDD yn gafael yn ei law.
25. Roeddwn i'n ifanc ar un adeg, ond bellach dw i mewn oed.Dw i erioed wedi gweld rhywun sy'n byw yn iawn yn cael ei siomi gan Dduw,na'i blant yn gorfod chwilio am fwyd.
26. Mae bob amser yn hael ac yn benthyg i eraill,ac mae ei blant yn cael eu bendithio.
27. Tro dy gefn ar ddrwg a gwna beth sy'n dda,a byddi'n saff am byth.
28. Mae'r ARGLWYDD yn caru beth sy'n gyfiawn,a dydy e byth yn siomi'r rhai sy'n ffyddlon iddo.Maen nhw'n saff bob amser!Ond bydd plant y rhai drwg yn cael eu gyrru i ffwrdd.
29. Bydd y rhai sy'n byw yn iawn yn meddiannu'r tir,ac yn aros yno am byth.
30. Mae pobl dduwiol yn dweud beth sy'n ddoeth,ac yn hybu cyfiawnder.
31. Cyfraith Duw sy'n rheoli eu ffordd o feddwl,a dŷn nhw byth yn llithro.
32. Mae'r rhai drwg yn disgwyl am gyflei ymosod ar y sawl sy'n byw'n iawn,yn y gobaith o'i ladd;
33. ond fydd yr ARGLWYDD ddim gadael iddo syrthio i'w dwylo;fydd e ddim yn cael ei gondemnio yn y llys.
34. Disgwyl am yr ARGLWYDD!Dos y ffordd mae e'n dweuda bydd e'n rhoi'r gallu i ti feddiannu'r tir.Byddi'n gweld y rhai drwg yn cael eu gyrru i ffwrdd.
35. Dw i wedi gweld pobl ddrwg, creulon,yn llwyddo ac yn lledu fel coeden ddeiliog yn ei chynefin.
36. Ond wedyn wrth basio heibio, sylwais eu bod wedi diflannu!Ro'n i'n edrych, ond doedd dim sôn amdanyn nhw!
37. Edrych ar y rhai gonest! Noda'r rhai sy'n byw'n gywir!Mae dyfodol i'r rhai sy'n hybu heddwch.