17. Bydd pobl ddrwg yn colli eu grym,ond mae'r ARGLWYDD yn cynnal y rhai sy'n byw yn iawn.
18. Mae'r ARGLWYDD yn gofalu amdanyn nhw bob dydd;mae ganddyn nhw etifeddiaeth fydd yn para am byth.
19. Fydd dim cywilydd arnyn nhw pan mae'n ddyddiau anodd;pan fydd newyn bydd ganddyn nhw ddigon i'w fwyta.
20. Ond bydd y rhai drwg yn marw.Bydd gelynion yr ARGLWYDD yn cael eu difa,fel gwellt yn cael ei losgi mewn ffwrn.
21. Mae pobl ddrwg yn benthyg heb dalu'r ddyled yn ôl;ond mae'r rhai sy'n byw yn iawn yn hael ac yn dal ati i roi.
22. Bydd y bobl mae Duw'n eu bendithio yn meddiannu'r tir,ond y rhai mae'n eu melltithio yn cael eu gyrru i ffwrdd.
23. Mae'r ARGLWYDD yn sicrhau llwyddiantyr un sy'n byw i'w blesio.
24. Bydd yn baglu weithiau, ond fydd e ddim yn syrthio ar ei wyneb,achos mae'r ARGLWYDD yn gafael yn ei law.
25. Roeddwn i'n ifanc ar un adeg, ond bellach dw i mewn oed.Dw i erioed wedi gweld rhywun sy'n byw yn iawn yn cael ei siomi gan Dduw,na'i blant yn gorfod chwilio am fwyd.