Salm 35:15-27 beibl.net 2015 (BNET)

15. Ond roedden nhw wrth eu boddau pan wnes i faglu!Dyma nhw'n dod at ei gilydd yn fy erbyn – wn i ddim pam –roedden nhw'n llarpio fel anifeiliaid gwylltion.

16. Dynion annuwiol yn gwawdio am sbort,ac yn ceisio dangos eu dannedd!

17. O ARGLWYDD, am faint wyt ti'n mynd i sefyll yna'n gwylio'r cwbl?Achub fi wrth iddyn nhw ymosod arna i;cadw fi'n saff oddi wrth y llewod ifanc!

18. Wedyn bydda i'n diolch i ti yn y gynulleidfa fawr!Bydda i'n dy foli di o flaen tyrfa enfawr o bobl!

19. Paid gadael i'r rhai sy'n elynion heb reswm lawenhau!Nac i'r rhai sy'n fy nghasáu i heb achos wincio ar ei gilydd.

20. Dŷn nhw ddim am wneud lles i neb,dim ond cynllwynio yn eu herbyn,a thwyllo pobl ddiniwed.

21. A dyma nhw'n barod i'm llyncu innau,“Aha! dŷn ni wedi dy ddal di!” medden nhw.

22. O ARGLWYDD, rwyt ti wedi gweld y cwbl!Felly paid cadw draw! Tyrd yma!

23. Symud! Deffra! Amddiffyn fi!Fy Nuw a'm Harglwydd, ymladd drosta i!

24. Achub fy ngham, O ARGLWYDD fy Nuw,am dy fod ti'n gyfiawn.Paid gadael iddyn nhw ddal ati i wneud sbort.

25. Paid gadael iddyn nhw feddwl,“Aha, dyma'n union beth roedden ni eisiau!”Paid gadael iddyn nhw ddweud,“Dŷn ni wedi ei ddinistrio!”

26. Rhwystra'r rhai sydd am wneud niwed i mi;coda gywilydd arnyn nhw!Cymer y rhai sydd wedi bod yn gwawdio mor falcha gwisga nhw gyda chywilydd ac embaras!

27. Ond gad i'r rhai sydd am i ti achub fy nghamweiddi'n llawen!Gad iddyn nhw allu dweud bob amser,“Yr ARGLWYDD sy'n rheoli!Mae am weld ei was yn llwyddo.”

Salm 35