1. Dw i am ganmol yr ARGLWYDD bob amser;a'i foli'n ddi-baid!
2. Dw i am frolio'r ARGLWYDD!Bydd y rhai sy'n cael eu cam-drinyn clywed ac yn llawenhau!
3. Dewch i ganmol yr ARGLWYDD gyda mi!Gadewch i ni ei foli gyda'n gilydd!
4. Ro'n i wedi troi at yr ARGLWYDD am help,ac atebodd fi.Achubodd fi o'm holl ofnau.
5. Mae'r rhai sy'n troi ato yn wên i gyd;does dim mymryn o gywilydd ar eu hwynebau.