Salm 33:13-21 beibl.net 2015 (BNET)

13. Mae'r ARGLWYDD yn edrych i lawr o'r nefoedd;ac mae'n gweld y ddynoliaeth gyfan.

14. Mae'n syllu i lawr o'i orseddar bawb sy'n byw ar y ddaear.

15. Mae wedi gwneud pawb yn wahanol,ac mae'n sylwi ar bopeth maen nhw'n ei wneud.

16. Nid byddin fawr sy'n achub y brenin;na'i gryfder ei hun sy'n achub milwr dewr.

17. Dydy march rhyfel ddim yn gallu ennill brwydr;er ei fod mor gryf, dydy e ddim yn gallu achub.

18. Yr ARGLWYDD sy'n gofalu am ei bobl,sef y rhai sy'n credu ei fod e'n ffyddlon.

19. Fe sy'n eu harbed nhw rhag cael eu lladd,ac yn eu cadw nhw'n fyw mewn cyfnod o newyn.

20. Mae'n gobaith ni yn yr ARGLWYDD!Fe sy'n ein helpu ni, ac yn darian i'n hamddiffyn.

21. Fe sy'n ein gwneud ni mor llawen!Dŷn ni'n credu yn ei enw sanctaidd e.

Salm 33