Salm 28:2-6 beibl.net 2015 (BNET)

2. Gwranda arna i'n galw –dw i'n erfyn am drugaredd!Dw i'n estyn fy nwyloat dy deml sanctaidd.

3. Paid llusgo fi i ffwrdd gyda'r rhai drwg,y bobl hynny sy'n gwneud dim byd ond drwg.Maen nhw'n dweud pethau sy'n swnio'n garedigond does dim byd ond malais yn y galon.

4. Tala yn ôl iddyn nhw am wneud y fath beth!Rho iddyn nhw beth maen nhw'n ei haeddu!Cosba nhw!

5. Dŷn nhw ddim yn deally ffordd mae'r ARGLWYDD yn gweithio.Bydd e'n eu bwrw nhw i lawr,a fyddan nhw byth yn codi eto!

6. Bendith ar yr ARGLWYDD!Ydy, mae e wedi gwrando arna i yn erfyn am drugaredd!

Salm 28