Salm 25:3-11 beibl.net 2015 (BNET)

3. Does neb sy'n dy drystio di yn cael ei siomi.Y rhai sy'n twyllo fydd yn methu,nhw fydd yn cael eu siomi!

4. Dw i eisiau dy ddilyn di, ARGLWYDD;dysga dy ffyrdd i mi.

5. Arwain fi ar y ffordd iawn a dysga fi,achos ti ydy'r Duw sy'n fy achub i.Dw i'n dibynnu arnat ti bob amser.

6. O ARGLWYDD, cofia dy fod yn Dduw trugarog a ffyddlon –un felly wyt ti wedi bod erioed!

7. Paid dal yn fy erbyn y pechodaua'r holl bethau wnes i o'i le pan oeddwn i'n ifanc.Bydd yn garedig ata i, ARGLWYDD;rwyt ti'n Dduw mor ffyddlon.

8. Mae'r ARGLWYDD yn dda ac yn hollol deg,felly mae e'n dangos i bechaduriaid sut dylen nhw fyw.

9. Mae'n dangos y ffordd iawn i'r rhai sy'n plygu iddoac yn eu dysgu nhw sut i fyw.

10. Mae'r ARGLWYDD bob amser yn ffyddlon,ac mae'r rhai sy'n cadw amodau'r ymrwymiad wnaeth eyn gallu dibynnu'n llwyr arno.

11. Er mwyn dy enw da, O ARGLWYDD,maddau'r holl ddrwg dw i wedi ei wneud– mae yna gymaint ohono!

Salm 25