Salm 18:31-43 beibl.net 2015 (BNET)

31. Oes duw arall ond yr ARGLWYDD?Oes craig arall ar wahân i'n Duw ni?

32. Fe ydy'r Duw sy'n rhoi nerth i mi –mae'n symud pob rhwystr o'm blaen.

33. Mae'n rhoi coesau fel carw i mi;fydda i byth yn llithro ar y creigiau uchel.

34. Dysgodd fi sut i ymladd –dw i'n gallu plygu bwa o bres!

35. Rwyt wedi fy amddiffyn fel tarian;mae dy law gref yn fy nghynnal.Mae dy ofal wedi gwneud i mi lwyddo.

36. Ti wnaeth i mi frasgamu ymlaena wnes i ddim baglu.

37. Es ar ôl fy ngelynion, a'u dal nhw;wnes i ddim troi'n ôl nes roedden nhw wedi darfod.

38. Dyma fi'n eu taro nhw i lawr,nes eu bod yn methu codi;roeddwn i'n eu sathru nhw dan draed.

39. Ti roddodd y nerth i mi ymladd;ti wnaeth i'r gelyn blygu o'm blaen.

40. Ti wnaeth iddyn nhw gilio yn ôl.Dinistriais y rhai oedd yn fy nghasáu yn llwyr.

41. Roedden nhw'n galw am help,ond doedd neb i'w hachub!Roedden nhw'n galw ar yr ARGLWYDD hyd yn oed!Ond wnaeth e ddim ateb.

42. Dyma fi'n eu malu nhw'n llwch i'w chwythu i ffwrdd gan y gwynt;a'u taflu i ffwrdd fel baw ar y strydoedd.

43. Achubaist fi o afael y rhai oedd yn ymladd yn fy erbyn.Gwnest fi'n bennaeth ar y gwledydd.Mae pobloedd wyddwn i ddim amdanyn nhwyn derbyn fy awdurdod.

Salm 18