Salm 143:5-9 beibl.net 2015 (BNET)

5. Ond wedyn dw i'n cofio am beth wnest ti yn y gorffennol,ac yn myfyrio ar y cwbl wnest ti ei gyflawni.

6. Dw i'n estyn fy nwylo allan atat ti.Dw i fel tir sych yn hiraethu am law! Saib

7. Brysia! Ateb fi, ARGLWYDD!Alla i ddim diodde dim mwy!Paid troi i ffwrdd oddi wrtho i,neu bydda i'n syrthio i bwll marwolaeth.

8. Gad i mi glywed am dy gariad ffyddlon di yn y bore,achos dw i'n dy drystio di.Gad i mi wybod pa ffordd i fynd –dw i'n dyheu amdanat ti!

9. Achub fi o afael y gelyn, O ARGLWYDD;dw i'n rhedeg atat ti am gysgod.

Salm 143